Alistair James

Alistair James Alistair James Alistair James
  • Cartref | Home
  • Bywgraffiad | Biography
  • Cân i Gymru
  • Tan Tro Nesa
  • Diolch i'r Drefn
  • Galeri | Gallery
  • More
    • Cartref | Home
    • Bywgraffiad | Biography
    • Cân i Gymru
    • Tan Tro Nesa
    • Diolch i'r Drefn
    • Galeri | Gallery

Alistair James

Alistair James Alistair James Alistair James
  • Cartref | Home
  • Bywgraffiad | Biography
  • Cân i Gymru
  • Tan Tro Nesa
  • Diolch i'r Drefn
  • Galeri | Gallery

Albwm Newydd | New Album

20 mlynedd ers rhyddhau ei albwm gyntaf, mae Alistair James yn rhyddhau ei 7fed albwm, Diolch i'r Drefn.  Bydd Diolch i'r Drefn ar gael ar eich platfformau digidol arferol ar 16.11.26


20 years since releasing his first album, Alistair James is releasing his 7th album, Diolch i'r Drefn.  Diolch i'r Drefn will be available on your usual digital platforms on 16.11.26

rhagarchebu | presave

dyddiad rhyddhau: 16.11.26


Release date: 16.11.26




DIOLCH I’R DREFN — albwm digidol newydd ar 16 Tachwedd 2026

Alistair James yn dathlu 20 mlynedd o gerddoriaeth gydag albwm newydd

Mae Alistair James yn dathlu carreg filltir arbennig eleni, wrth iddo ryddhau ei seithfed albwm, Diolch i’r Drefn, ugain mlynedd ers cyhoeddi ei albwm cyntaf.


Bydd yr albwm newydd yn cael ei ryddhau’n ddigidol ar 16 Tachwedd 2026, gan nodi dau ddegawd o gerddoriaeth, profiadau a chaneuon sydd wedi bod yn rhan o daith Alistair fel artist.


Mae llawer wedi newid ers rhyddhau’r albwm cyntaf hwnnw. Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, mae Alistair wedi dod yn dad i ddau o blant, Siwan ac Elis, wedi gweithio fel cyflwynydd radio ar Heart, wedyn

Capital, ac yn gweithio bellach i Tinopolis a Radio Cymru 2.


Un o uchafbwyntiau ei yrfa gerddorol oedd cyflawni uchelgais oes drwy ennill Cân i Gymru, gyda’r canwr

Dylan Morris yn perfformio ei gân “Patagonia”.


Mae Diolch i’r Drefn yn cynnwys casgliad o ganeuon newydd sbon, gan gynnwys “Adenydd y Nos”, “Jac y

Do”, “Duwiau a Doethion” a’r trac teitl, “Diolch i’r Drefn”.


Wrth edrych yn ôl ar ugain mlynedd o gerddoriaeth, mae Alistair yn awyddus i ddiolch i'r rhai sydd wedi gwneud y freuddwyd yn bosib. Mae’n arbennig o ddiolchgar i’w wraig, Llinos, am ei chefnogaeth barhaus, i’w gynhyrchydd a’i ffrind gorau, Russ, am ei arbenigedd a’i ymroddiad drwy’r blynyddoedd ac i'r holl leoliadau sydd wedi ei gefnogi gyda gigs. Mae hefyd yn diolch i bawb sydd wedi gwrando ar ei gerddoriaeth, ei gefnogi a bod yn rhan o’r daith hyd yma.


Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Alistair yn llawn cyffro am yr hyn sydd gan y blynyddoedd nesaf i’w

gynnig, ac yn edrych ymlaen at weld beth ddaw yn ystod yr ugain mlynedd nesaf.

Alistair James celebrates 20 years of music with a new album

Alistair James is celebrating a special milestone this year with the release of his seventh album, Diolch i’r Drefn, twenty years after the release of his debut album.

The new album will be released digitally on 16 November 2026, marking two decades of music, experiences, and songs that have been part of Alistair’s journey as an artist.

Much has changed since that first album was released. Over the last twenty years, Alistair has become a father to two children, Siwan and Elis; he has worked as a radio presenter for Heart and Capital, and he now works for Tinopolis and Radio Cymru 2.

A highlight of his musical career was fulfilling a lifelong ambition by winning Cân i Gymru, with the singer Dylan Morris performing his song “Patagonia”.

Diolch i’r Drefn features a collection of brand-new songs, including “Adenydd y Nos”, “Jac y Do”, “Duwiau a Doethion”, and the title track, “Diolch i’r Drefn”.

Looking back on twenty years of music, Alistair wishes to thank those who have made this dream possible. He is especially grateful to his wife, Llinos, for her constant support; to his producer and best friend, Russ, for his expertise and dedication over the years; and to all the venues that have supported him with gigs. He also thanks everyone who has listened to his music, supported him, and been part of the journey so far.

Looking to the future, Alistair is full of excitement about what the coming years have to offer, and is looking forward to seeing what the next twenty years will bring.

 Copyright © 2026 Angharad Rhiannon - All Rights Reserved. 


Powered by

This website uses cookies.

We use cookies to analyze website traffic and optimize your website experience. By accepting our use of cookies, your data will be aggregated with all other user data.

DeclineAccept