Mae 2023 wedi bod yn flwyddyn o gyffro hyd yn hyn i Angharad Rhiannon ac i Alistair James gyda’r ddau yn gwireddu breuddwydion cerddorol. Mae’r ffrindiau wedi dod at ei gilydd i ddathlu trwy gydweithio ar y sengl ‘Carnifal’. Chwareuwyd Carnifal am y tro cyntaf ar raglen Ifan Jones Evans ar Radio Cymru ar 27.06.23. Bydd Angharad ac Alistair yn perfformio'r gân ar Heno, S4C ar Nos Iau 06.07.23. Bydd y sengl ar gael o 07.07.23.
2023 has been an exciting year for Angharad Rhiannon and Alistair James as they both achieved musical ambitions. The friends have come together to celebrate by releasing the single 'Carnifal'. Carnifal was played for the first time on Ifan Jones Evans' programme on Radio Cymru on 27.06.23. Angharad and Alistair will be performing Carnifal on Heno, S4C on 06.07.23. The single will be available from 07.07.23.
*English Below* Dwi dal methu coelio be ddigwyddodd neithiwr! Y bwriad oedd aros tan heddiw er mwyn meddwl am rywbeth call i ddweud ond dwi dal methu cael hyd i’r geiriau i ddisgrifio faint mae hyn yn golygu. Fel cyfansoddwr Cymraeg dyma’r uchelgais, y zenith a ‘da chi wedi helpu i mi gyrraedd a’r yr unig beth gai ddweud, eto, o waelod fy nghalon yw diolch.
P.S. Mae Dylan Morris yn LEJAND!
I still can’t quite believe what actually happened last night! The intention was to sleep on it before preparing something coherent this morning but I still can’t quite put in to words what this means. As a Welsh songwriter this is the pinnacle, the zenith and you have helped me achieve that and the only thing I can really say is thank you, from the bottom of my heart.
P.S. Dylan Morris is a LEGEND!
CYHOEDDIAD • ANNOUNCEMENT (English Below) Heb gwestiwn mae'r cyfleoedd dwi wedi cael i fod yn rhan o gystadleuaeth Cân i Gymru yn 2008 a 2020 wedi curo pob dim arall dwi wedi profi yn ystod fy ngyrfa. Mae’n uchafbwynt, uchelgais ac anrhydedd i unrhyw gyfansoddwr/cerddor Cymraeg bod yn rhan o noson mor eiconig. Dwi wrth fy modd ac wedi llethu i gael cyhoeddi fy mod i wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gystadleuaeth eleni gyda'r gân Patagonia. Mae'r profiad yma am fod yn un bach wahanol i'r gorffennol oherwydd dwi ddim am berfformio can fy hun ar y noson. Dwi'n eithriadol o ddiolchgar i Dylan Morris, canwr dwi'n edmygu gymaint, am gytuno i ganu'r gân. Mae'r gwaith caled am gychwyn rŵan ond mi fyddai a Dylan yn hynod ddiolchgar am unrhyw gefnogaeth ar y noson - AMDANI!
Without question, being a part of Cân i Gymru in 2008 and 2020 have eclipsed everything else I have experienced my career. It is a highlight, an aspiration and an honour for any Welsh composer or musician to be a part of such an iconic night. I am, therefore delighted and overwhelmed to announce that I have reached this year’s final with the song Patagonia. This year will be a bit different to previous times as I will not be performing the song myself. I am hugely grateful to Dylan Morris, a singer that I admire greatly, for agreeing to sing the song on the night. The hard work starts now but myself and Dylan would be hugely grateful of any support you can offer on the night – Let’s do this!
Gyda diolch i Radio Cymru am ychwanegu Alaw'r Atgofion at y Rhestr Chwarae am y 5ed wythnos yn olynol. Cofiwch bod modd lawrlwytho'r gân hon am ddim ar y dudalen hon.
With thanks to Radio Cymru for adding Alaw'r Atgofion to the Playlist for the 5th week in succession. Remember you can dowload this song for free on this page.
Website designed and developed by Angharad Rhiannon
Copyright © 2023 Angharad Rhiannon - All Rights Reserved.